SL(6)650 – Rheoliadau Carcasau Defaid (Dosbarthu ac Adrodd am Brisiau) (Cymru) 2025
Cefndir a Diben
Gwneir Rheoliadau Carcasau Defaid (Dosbarthu ac Adrodd am Brisiau) (Cymru) 2025 (“y Rheoliadau”) drwy ddefnyddio pwerau yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 ac maent yn darparu ar gyfer dosbarthu carcasau defaid yn fandadol ac adrodd am eu prisiau yn fandadol gan ladd-dai cymeradwy mwy o faint (lladd-dai rheoleiddiedig sy'n lladd o leiaf 2,000 o ddefaid yr wythnos ar gyfartaledd). Ar hyn o bryd mae pedwar lladd-dy yng Nghymru a fyddai'n ddarostyngedig i'r Rheoliadau.
Mae Memorandwm Esboniadol Llywodraeth Cymru yn darparu y bydd y Rheoliadau yn sicrhau bod y farchnad defaid yn gweithredu gyda mwy o dryloywder fel y bydd cynhyrchwyr yn deall a ydynt yn derbyn pris teg am eu hanifeiliaid a laddwyd. Mae'r Memorandwm Esboniadol hefyd yn egluro bod cynlluniau gorfodol ar gyfer dosbarthu carcasau ac adrodd am brisiau wedi bod ar waith yn y sectorau cig eidion a phorc ers blynyddoedd lawer. Bwriad cyflwyno cynllun gorfodol ar gyfer y sector defaid yw sicrhau bod y sector defaid yn cyd-fynd mor agos â phosibl â'r sectorau hynny.
Mae'r Memorandwm Esboniadol yn darparu y bydd y Rheoliadau hyn yn cael eu gweithredu yn unol â deddfwriaeth debyg sydd eisoes wedi'i chyflwyno gan DEFRA yn Lloegr a'r rhai sy'n cael eu hystyried yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Y weithdrefn
Cadarnhaol drafft
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni all Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai fod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn:
1. Rheol Sefydlog 21.2(vii) - ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr ei destun Cymraeg a’i destun Saesneg.
Yn rheoliad 2 (dehongli), yn lle ystyr “carcass” yn y testun Saesneg, mae'r Rheoliadau'n cyfeirio'n gywir at “Annex 2” i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 2019/627 dyddiedig 15 Mawrth 2019. Mae'r testun Cymraeg yn cyfeirio at “Atodlen 2” sy’n cyfieithu fel “Schedule 2”, ac felly mae ystyr gwahanol rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg. Y term cywir i'w ddefnyddio ar gyfer “Annex” yw “Atodiad”, yn unol â TermCymru.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:
2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Mae paragraff 4 o Femorandwm Esboniadol Llywodraeth Cymru yn darparu’r canlynol:
Gwnaed Rheoliadau Carcasau Defaid (Dosbarthu ac Adrodd am Brisiau) (Lloegr) 2025 (“Rheoliadau Lloegr”) ar 9 Gorffennaf 2025 a bydd rheoliadau Cymru yn cael effaith ymarferol ar yr un dyddiad â Rheoliadau Lloegr i sicrhau parhad ar draws y ddwy wlad.
Y dyddiad dod i rym ar gyfer y Rheoliadau hyn yw 28 Ionawr 2026, sy'n hwyrach na'r dyddiad y daw Rheoliadau Lloegr i rym, sef 12 Ionawr 2026 (yn amodol ar eithriadau a bennir yn rheoliad 1(3)). Gofynnir i Lywodraeth Cymru esbonio pam mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym bythefnos ar ôl Rheoliadau Lloegr.
3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Tynnodd adroddiad y Pwyllgor hwn ar Fil Amaethyddiaeth (Cymru) (bellach Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023) sylw at bryderon ynghylch darpariaethau sy’n ymgysylltu â’r egwyddor cydnabyddiaeth gilyddol a sefydlwyd gan Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020. Gofynnir i Lywodraeth Cymru esbonio a fydd effeithiolrwydd unrhyw un o'r darpariaethau yn y Rheoliadau hyn yng Nghymru yn dibynnu ar, neu'n cael ei effeithio gan, unrhyw un o ofynion Deddf Marchnad Fewnol y DU.
Nid yw Memorandwm Esboniadol Llywodraeth Cymru i'r Rheoliadau hyn yn cyfeirio at Ddeddf Marchnad Fewnol y DU ond mae'n cyfeirio at sicrhau “parhad ar draws y ddwy wlad” (Cymru a Lloegr). Pa asesiad, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r sefyllfa ddeddfwriaethol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon mewn perthynas â dosbarthu ac adrodd am brisiau carcasau defaid, a'r effaith y gallai unrhyw wahaniaeth mewn rheoliadau cyfatebol ei chael ar effaith y Rheoliadau hyn yng Nghymru?
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
1 Hydref 2025